Mae Cymru Versus Arthritis yn darparu cymorth a gwybodaeth i bobl sydd ag arthritis er mwyn byw'n dda gyda'u cyflwr a hyrwyddo eu hanghenion gyda llunwyr polisi yng Nghymru, gan ddarparu gwahanol wasanaethau i bobl o bob oed sydd ag arthritis, sy'n amrywio o sesiynau gweithgaredd i bobl ifanc gael cefnogaeth ymarferol a gwybodaeth i'r rhai sydd ag arthritis.
Mae ein gwasanaethau cefnogaeth Byw’n Dda a CWTCH yn gweithio ar y cyd â phobl gydag arthritis, grwpiau cymunedol, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol i ddarparu fframwaith o gefnogaeth.
Bydd ein tîm o staff a gwirfoddolwyr yn gweithio i sicrhau y cydnabyddir effaith arthritis, ac o ganlyniad yn sicrhau bod pobl wedi eu grymuso a'u cefnogi i fyw'n dda. Cyfrannu at ein gweledigaeth o fyd nad yw bellach yn goddef effaith arthritis, gan sicrhau nad oes unrhyw un yn wynebu arthritis ar ei ben ei hun.