Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Byddar-Dall Cymru, Grŵp Cymdeithasol Bro Morgannwg

Lleoliad

Visitable Address

Library Kings Square Barry CF63 4RW

Cyfeiriad post

Library Kings Square Barry

Mae ein Grŵp Cymdeithasol yn dod â phobl sydd â cholled golwg a chlyw ynghyd am gyfeillgarwch, rhannu cyngor a sgyrsiau am wasanaethau, ac i fwynhau amser allan o’r tŷ. Rydym yn cynnig lle diogel i wneud ffrindiau, mwynhau paned a bisgedi, ac i rannu unrhyw bryderon neu anawsterau y gallent fod yn eu profi oherwydd colled synhwyraidd.

Mae’r grŵp yn cwrdd bob trydydd dydd Llun y mis, rhwng 1:30yp a 3:30yp yn Llyfrgell y Barri, 160 Sgwâr y Brenin, Y Barri, CF63 4RW, yn ystafell y bwrdd ar y llawr uchaf.

Croesewir cyfranogwyr newydd a gwirfoddolwyr bob amser – dewch draw neu cysylltwch â ni ymlaen llaw os yw hynny’n well gennych.