Sefydlwyd Dolen Teifi gan wirfoddolwyr o grŵp menter Llandysul a Phont-Tyweli Ymlaen Cyf. Ein nod bob amser ydi darparu cludiant cynaliadwy i bobl sy'n byw yn Llandysul a'r ardal gyfagos.
Yr ydym yn awr wedi ehangu ein hardal llogi i grwpiau cymunedol o gymunedau ar hyd Dyffryn Teifi o Gastellnewydd Emlyn i Llanybydder.
Mae gennym ddau fws, un bws 16 sedd a'r llall bws 15 sedd sydd yn gwbl hygyrch.
Mae ein gyrwyr yn wirfoddolwyr o'r gymuned leol sydd wedi cael eu hyfforddi i safon MiDAS. Am fwy o wybodaeth am yr hyn sydd ei angen i wirfoddoli fel gyrrwr bws gweler ein tudalen gwirfoddolwyr.
Rydym yn llogi ein bysiau i grwpiau cymunedol yn ardal Dyffryn Teifi sydd wedi ymuno a Dolen Teifi. Mae ffi danysgrifio o £10 y flwyddyn yn cael ei ddefnyddio i helpu i dalu ein costau gweinyddol. Mae'r grŵp yn codi £1 y filltir o'r man parcio i'r man dychwelyd.
I archebu bws mini gallwch gysylltu â ni drwy ffonio 01559 362403.