Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Prosiect Trais yn y Cartref

Lleoliad

Cyswllt

07795 484114

Mae Prosiect Trais yn y Cartref Adferiad yn darparu cefnogaeth i ddeuddeg o fenywod a dynion sydd wedi ffoi o drais yn y cartref. Rydym yn berchen ar bum eiddo a ddefnyddir i ddarparu llety â chymorth; mae’r rhain yn dri fflat un lofft a dau dŷ tair lloft, sy’n ein galluogi i gartrefu teuluoedd.

Mae’r prosiect yn gweithio mewn partneriaeth gydag Adferiad a Stori. Gydag Adferiad yn arwain, mae’r prosiect hwn yn darparu dau aelod o staff: un gan Adferiad ac un o Stori. Derbynnir atgyfeiriadau o Lwybr Conwy, ac mae Adferiad a Stori yn mynd allan gyda’i gilydd i gynnal yr asesiad a bydd staff yn gweithio’n agos at ei gilydd.