Ariennir rhaglen Paid Cyffwrdd – Dweud! Adferiad gan Fwrdd Cynllunio Ardal Gogledd Cymru. Darparwn wybodaeth ataliol i bob ysgol gynradd ar draws Gogledd Cymru a byddwn, yn fuan, yn cynnwys ysgolion Powys hefyd. Mae’r ysgolion yn derbyn y sioeau hyn bob tair blynedd, gan sicrhau fod pob plentyn oed cynradd yng Ngogledd Cymru yn cael mynediad i’r ddwy sioe. Darparwn sioeau proffesiynol sy’n ymgorffori perfformiad gyda negeseuon cadw’n ddiogel pwysig iawn. Mae hyn yn galluogi plant ifanc i wneud dewisiadau gwybyddus ynghylch cadw eu hunain yn ddiogel heb i’r sesiwn godi ofn neu achosi pryder. Fel perfformwyr proffesiynol, gall y tîm ddarparu’r un sioe yn effeithiol i wahanol grwpiau oedran, gan osod y sioe ar gyfer pob lefel.