Canllaw hawdd ei ddeall yw hwn i ddeall materion iechyd meddwl a sut i ofalu am eich iechyd meddwl a’ch llesiant.
Mae pobl ag anableddau dysgu yn llawer mwy tebygol o brofi iechyd meddwl gwael. Ond mae yna ddiffyg gwybodaeth hawdd ei ddeall, i helpu pobl deall materion iechyd meddwl a beth i’w wneud amdanynt.
Ein canllaw ni yn gyflwyniad i ddeall y materion iechyd meddwl mwyaf cyffredin – iselder a gor-bryder. Rydym yn nodi y math o driniaeth y dylid ei chynnig i bobl yng Nghymru pan fyddant yn mynd i weld eu meddyg teulu.