Rydym yn wasanaeth cyfeillio, ac yn arbenigo mewn cefnogi pobl fregus a allai fod yn profi unigrwydd neu arwahanrwydd yn ein cymuned. Rydyn ni eisiau eich diweddaru am wasanaeth newydd y gallwn bellach ei gynnig i gefnogi pobl hŷn sy’n profi unigedd yng Ngwynedd, yn ardaloedd o gwmpas Bangor/Bethesda/Caernarfon – Prosiect Mynediad at y Gymuned Eryri Cydweithredol, a gefnogir gan Cronfa Gymenudol y Loteri Genedlaethol.
Gallwn gynnig gwasanaeth rhad ac am ddim, cyfyngedig o ran amser. Cylch gorchwyl y gwasanaeth yw cefnogi unigolion yn ôl i'w cymunedau. Gall hyn gynnwys cael mynediad at weithgareddau / digwyddiadau cymunedol, gyda'n heb drafnidiaeth, teithiau siopa, gwasanaeth eistedd i ofalwyr anwyliaid â dementia, ymweliadau cartref i gwmni hy sgwrsio, gwaith tŷ ysgafn, agor llythyrau, trefnu apwyntiadau, tripiau dydd allan neu fynychu apwyntiad.