Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Swyddogion Cyswllt Gofal Llygaid a Gwybodaeth Iechyd Llygaid

Mae Swyddog Cyswllt Gofal Llygaid (ECLO) ar gael ym mhob clinig llygaid yng Nghymru. Mae Swyddog Cyswllt Gofal Llygaid yn gweithio'n agos gyda staff meddygol a nyrsio yn y clinig llygaid, a'r tîm synhwyraidd yn y gwasanaethau cymdeithasol. Maent yn rhoi’r cymorth ymarferol ac emosiynol sydd ei angen ar bobl sydd wedi cael diagnosis o gyflwr llygaid i ddeall eu diagnosis, delio â’u colled golwg a chynnal eu hannibyniaeth. Mae Swyddog Cyswllt Gofal Llygaid yn gweithredu fel pont bwysig rhwng iechyd a gwasanaethau cymdeithasol ac maent yn ganolog i gymorth a lles cleifion mewn clinigau llygaid. Maent hefyd yn helpu i atal achosion o golled golwg y gellir eu hosgoi, trwy siarad am driniaeth a helpu pobl i ddeall eu meddyginiaeth os oes angen. https://www.rnib.org.uk/your-eyes/navigating-sight-loss/eye-care-liaison-officers-eclos/