Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Ffrind i Mi/Friend of Mine

Lleoliad

Cyswllt

01495 768645

Mae pawb, ar ryw adeg, wedi teimlo’n unig, yn fregus neu wedi dymuno bod ganddyn nhw fwy o gwmni. Gan unigrwydd effeithio ar unrhyw un, yn unrhyw oedran ac ar adeg. Er enghraifft, ar ôl colli un annwyl, wrth adael gwasanaeth milwrol, ymddeol neu symud i ffwrdd.

Mae pobl yn ymdopi gyda digwyddiadau bywyd mewn ffyrdd gwahanol. Mae rhai pobl yn teimlo bod mynd allan a threulio amser gyda chyfeillion yn gymorth. I eraill mae cael rhywun i ymweld â nhw’n gwneud gwahaniaeth mawr. Ond weithiau, dyw pobl ddim yn hoffi gofyn neu ddim yn gwybod pwy i ofyn am gefnogaeth neu gyngor.

Menter newydd yw Ffrind i Mi (Friend of mine) ble mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan a’n partneriaid yn gweithio gyda’n gilydd er mwyn sicrhau bod unrhyw un sy’n teimlo’n unig neu ar wahân yn cael cefnogaeth i ail-gysylltu â’u cymunedau. Mae hyn yn cynnwys gwneud yn siŵr bod pobl yn gwybod pa wasanaethau sydd ar gael ar eu cyfer a phwy i gysylltu â nhw.