Mae ein Grŵp FAN yn cwrdd bob dydd Iau am 1.30pm ac mae e ar gyfer dynion a merched. Dewch i ymuno â ni am awr o sgwrsio cyfeillgar. Os ydych chi'n dysgu Saesneg neu'n newydd i'r ardal mae FAN yn ffordd wych o gwrdd â phobl leol a gwneud ffrindiau. Mae grwpiau FAN yn agored i bawb ac yn rhad ac am ddim.