Rydym yn helpu pobl hŷn sy'n berchnogion ar eu cartrefi neu yn denantiaid preifat - i atgyweirio, addasu a chynnal a chadw eu cartrefi er mwyn sicrhau bod eu cartref yn le saff, diogel a chlyd i fyw ynddo.
Byddwn yn ymweld â chi yn eich cartref i drafod pa atgyweiriadau neu addasiadau yr ydych eu hangen, y datrysiadau posibl, y costau tebygol a ffynonellau cyllid.