Mae Goldies Cymru yn sesiynau canu a gweithgareddau sy'n agored i bawb. Nid ydym yn gôr a dydyn ni ddim yn poeni am gyrraedd y nodau! Ein ffocws yw mwynhau ein hunain, cymdeithasu, cyfarfod â phobl newydd a gwneud ffrindiau. Rydyn ni’n mwynhau cerddoriaeth o’r 50au, 60au a 70au. Rydyn ni'n cyd-ganu, weithiau'n dawnsio ac yn ysgwyd ein swildod.
Rydym yn cynnal sesiynau misol ar draws De Cymru, mae pob sesiwn tua awr o hyd gyda lluniaeth yn gynwysedig. Goldies yn Llyfrgell Treganna, Stryd y Llyfrgell, Caerdydd CF5 1QD
Dydd Mawrth cyntaf y mis, 2.30-3.30pm
Dewch draw i weld drosoch eich hun. Byddwch yn sicr o groeso cynnes, cyfeillgar gyda'n harweinwyr sesiynau gwych a Goldies hyfryd. Ceir manylion ein holl sesiynau ar ein gwefan.