Mae Hwb Gofalwyr Gwent wedi’i leoli yng nghanol tref Pont-y-pŵl ac yn cynnig lle diogel i ofalwyr di-dâl siarad am eu hunain a’u rôl ofalu.
Gyda’n gilydd, gallwn nodi sut y gall Hwb Gofalwyr Gwent a gwasanaethau lleol eraill eich helpu i ddeall, cyflawni a thyfu yn eich rôl fel gofalwr di-dâl.
Mae gofalu am eich lles eich hun yn hanfodol i chi ac i’r person rydych yn gofalu amdano. Rydym yn deall pa mor anodd yw bod yn ofalwr di-dâl, ac rydym yma i’ch cefnogi.
Mae’r gwasanaeth yn cynnig cymorth gyda:
Cyngor a chymorth i bob gofalwr di-dâl
Grwpiau gofalwyr
Arweiniad at ffynonellau cymorth eraill i ddiwallu anghenion penodol
Cyfeirio ar gyfer asesiad gofalwr
Cyfeirio at yr awdurdod lleol
Cymorth un-i-un wyneb yn wyneb neu dros y ffôn
Cymorth i wneud cais i’n cynllun grantiau bach
Digwyddiadau i ofalwyr
Mynediad at Weithwyr Allgymorth mewn digwyddiadau yn eich ardal leol os na allwch ddod i’r hwb
Lles corfforol a meddyliol
Lles emosiynol
Lles ariannol