Er mwyn helpu i roi’r cychwyn gorau posibl mewn bywyd i blant, mae Home-Start yn cefnogi rhieni wrth iddynt fagu hyder, cryfhau eu perthynas â’u plant, ac ehangu eu cysylltiadau â’r gymuned leol. Mae Home-Start yn cynnig cefnogaeth, cyfeillgarwch a help ymarferol i rieni â phlant ifanc yn y gymuned leol.
Er mai ymweld â theuluoedd yn eu cartrefi yw ffordd draddodiadol Home-Start o gefnogi, ar hyn o bryd, oherwydd COVID-19, gofynnwn i’n Gwirfoddolwyr gefnogi teuluoedd trwy alwadau ffôn/fideo wythnosol.
Trwy rannu eu hamser a’u cyfeillgarwch, mae gwirfoddolwyr yn cynnig cyfleoedd i deuluoedd ddatblygu perthnasoedd newydd, syniadau ffres, a sgiliau a galluoedd gwell. Gall teuluoedd fagu hyder i fanteisio ar adnoddau eraill yn y gymuned.
Mae gwaith y gwirfoddolwr yn gofyn am lefel uchel o ymrwymiad a dibynadwyedd, a chaiff ei gefnogi’n rheolaidd gan Home-Start Cymru.
Monday - Friday 9-5
Galw heibio
Hunangyfeirio
Atgyfeiriad gan asiantaeth
Trwy drefnu apwyntiad yn unig