Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Home-Start Flintshire, cefnogi teuluoedd yn Sir y Fflint

Lleoliad

Cyfeiriad post

Unit 3 Mold Business Park Mold CH7 1XP

Mae Home-Start Sir y Fflint yn credu bod angen plentyndod hapus a diogel ar blant a bod rhieni’n chwarae rhan allweddol wrth roi dechrau da mewn bywyd i blant i’w helpu i gyflawni eu llawn botensial. Mae Home-Start yn cynnig gwasanaeth unigryw: Mae’n recriwtio ac yn hyfforddi gwirfoddolwyr sydd â phrofiad magu plant/gofalu i ymgymryd â’r rhan fwyaf o’r cymorth.
Mae Home-Start Sir y Fflint yn cefnogi teuluoedd i roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i’w plant, trwy gynnig cymorth anffurfiol, cyfeillgar a chyfrinachol i rieni ledled Sir y Fflint, gan feithrin eu gwytnwch, cryfhau eu perthynas â’u plant ac ehangu eu cysylltiadau â’r gymuned leol.