Mae Advocacy Support Cymru (ASC) yn elusen gofrestredig ac mae'n arbenigo mewn darparu cefnogaeth eiriolaeth gyfrinachol ac annibynnol i bobl. Mae ASC yn darparu gwasanaeth eiriolaeth iechyd meddwl cymunedol annibynnol i gleifion cymwys.
Rydym yn darparu gwybodaeth am hawliau cleifion ac yn eu helpu i arfer yr hawliau hynny. Rydym yn darparu llais i unigolion fel bod eu hanghenion a'u dewisiadau yn cael eu hystyried wrth gynllunio eu triniaeth a'u gofal meddyginiaeth.