Cadwch Gymru'n Daclus - Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Lleoedd Lleol ar gyfer Natur

Mae Lleoedd Lleol ar gyfer Natur yn ôl!
Rydym yn llawn cyffro i gyhoeddi bod ceisiadau ar gyfer Lleoedd Lleol ar gyfer Natur wedi ailagor, ac mae gennym gannoedd o becynnau gardd am ddim i’w rhoi i grwpiau a sefydliadau cymunedol.

Sut wyf yn gwneud cais?
Mae’n broses syml. Dewiswch eich pecyn, darllenwch y canllawiau, a llenwch ffurflen gais ar-lein gan sicrhau eich bod yn ateb pob cwestiwn.
Os oes angen cymorth arnoch gyda’ch cais, mae gennym gydlynwyr rhanbarthol wrth law i’ch tywys drwy’r broses.
Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau a chyfranogiad cymunedol, yn ogsytal â’r rheiny mewn trefi, dinasoedd, ardaloedd difreintiedig a mannau heb lawer o fynediad i natur. Rydym hefyd yn awyddus iawn i groesawu ceisiadau gan grwpiau a dangynrychiolir ar draws Cymru.
Caiff y ceisiadau eu hasesu bob pythefnos gan baneli grant prosiectau.
> Canfod mwy a gwneud cais https://keepwalestidy.cymru/our-work/conservation/nature/
Ariennir y fenter gan Lywodraeth Cymru fel rhan o raglen ehangach ‘Lleoedd Lleol ar gyfer Natur’ Llywodraeth Cymru.
Edrychwch ar #NôliNatur ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf