Mae Cyfaill Cyfreitha yn cynnal achos cyfreithiol ar ran rhywun sydd heb y galluedd i wneud hynny. Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddo cyfreithiwr. Weithiau gall Eiriolwr Annibynnol weithredu fel Cyfaill Cyfreitha gan ei fod yn adnabod y person yn dda ac yn fodlon ei gynrychioli.
Bydd y Cyfaill Cyfreitha yn cyflwyno barn a dymuniadau'r person mewn achos llys trwy ei gyfreithiwr.
Pwy all fod yn Gyfaill Cyfreitha?
Gall y llys benodi unrhyw un i fod yn gyfaill cyfreitha, er enghraifft:
Rhiant neu warcheidwad
Aelod o'r teulu neu ffrind
Cyfreithiwr
Eiriolwr proffesiynol fel Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol (IMCA)
Dirprwy yn y Llys Gwarchod
Rhywun sydd ag Atwrneiaeth arhosol neu barhaus