Mae’r Siop Un Alwad Llamau yn darparu Gwasanaethau Ymyrraeth Gynnar ac Atal Digartrefedd i bobl ifanc rhwng 14 – 25 oed sydd mewn angen tai. Rydym yn cynnig cyngor ar Gyfryngu, cymorth, ac atgyfeiriadau i lety â chymorth a chyfleoedd addysg/hyfforddiant. Rydym yn gweithio’n agos gyda’n partneriaid statudol ym maes tai a gwasanaethau cymdeithasol ac yn cynnal asesiadau ar y cyd ar gyfer pobl ifanc digartref 16 a 17 oed. Nod cyffredinol y gwasanaeth yw atal digartrefedd lle bynnag y bo modd. Mae ein Gwasanaeth Cyfryngu Teuluol yn cefnogi teuluoedd gyda phobl ifanc 14 oed a hŷn.