Rydyn ni’n trawsnewid y ffordd rydyn ni’n gweithio gyda phobl mewn cymunedau - gan helpu pobl i greu eu datrysiadau ymarferol eu hunain mewn cymunedau sy’n gynhwysol ac yn gefnogol. Mae’r Cydlynydd Cymunedol Lleol yn berson cymwys a phroffesiynol a fydd yn gweithio gydag unigolion, pobl ifanc, oedolion agored i niwed, pobl ag anableddau a gofalwyr sydd ag anawsterau a phroblemau eang ac amrywiol. Bydd y CCLl yn defnyddio gwybodaeth helaeth am adnoddau cymunedol i greu cefnogaeth unigol benodol a fydd yn helpu i feithrin cadernid a hybu lles. Mae’r CCLl yn cyfuno angerdd dros y gymuned leol gydag ymrwymiad i weithio ochr yn ochr â phobl mewn ffyrdd ymarferol iawn - gan chwilio bob amser am ddatrysiadau lleol drwy gyfrwng y rhwydweithiau a’r adnoddau mae’n gwybod amdanynt yn y gymuned.
Gobaith y CCLl yw datblygu partneriaethau cadarn gyda chymunedau, asiantaethau a gwasanaethau yn y trydydd sector a grwpiau a mudiadau gwirfoddol, i ddatblygu eu gallu i gynnwys anghenion pob dinesydd.