Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Lucy Faithfull Foundation UK - gwefan Shore

Mae Lucy Faithfull Foundation UK yn dod â gwefan Shore atoch chi, sy’n ceisio darparu man diogel ar-lein i bobl ifanc yn eu harddegau sy’n poeni am ymddygiad rhywiol.

Poeni am feddyliau neu ymddygiad rhywiol?
Ydych chi’n poeni am eich meddyliau, teimladau neu weithredoedd rhywiol eich hun neu rywun arall? Gallwn ni helpu. Mae gan Shore gyngor a chefnogaeth ddienw i'ch helpu chi neu rywun rydych chi'n ei adnabod i reoli meddyliau pryderus a dysgu mwy am fyw'n ddiogel ar-lein ac all-lein. Mae ein holl wasanaethau’n ddienw, sy’n golygu nad oes rhaid i chi ddweud pwy ydych chi.