Eich siop un stop i ddod o hyd i wasanaethau Pryd ar Glud sy’n danfon i’ch ardal!
Mae Prifysgol Bryste wedi lawnsio map ar-lein newydd sy’n rhad ac am ddim i’w ddefnyddio ac sydd wedi’i ddylunio i helpu unigolion a gweithwyr proffesiynol ledled Prydain i ddod o hyd i wasanaethau Pryd ar Glud.
Crëwyd y map wrth ystyried nifer o wahanol ddefnyddwyr, ac rydym yn eich hannog i weld sut y gallai gefnogi eich hanghenion chi:
I oedolion yn y DU sy’n ystyried defnyddio Pryd ar Glud, eu gofalwyr, a’r cyhoedd: defnyddiwch y map i ddod o hyd i ddarparwyr sy’n danfon i’ch hardal, a chael gafael ar wybodaeth werthfawr ar y gwasanaethau sydd ar gael.
Ar gyfer darparwyr Pryd ar Glud, gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol, comisiynwyr, ac ysgrifenwyr polisi: mae’r map yn gweithredu fel hwb ar gyfer gwybodaeth, gan eich rhoi mewn cyswllt gyda darparwyr eraill, cyfeirio oedolion i wasanaethau, a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar ddata i wella darpariaeth gwasanaeth.