Medrwn Môn

Darparwyd gan
Medrwn Môn

Nod Medrwn Môn ydy hyrwyddo a chefnogi gwirfoddoli, mudiadau gwirfoddol a chymunedol drwy weithio gydag unigolion, grwpiau a chymunedau ar Ynys Môn i sicrhau eu bod yn chwarae rhan lawn a blaenllaw i ddatblygu potensial yr Ynys.

Mae Medrwn Môn yn asiantaeth annibynnol sy’n darparu cefnogaeth a chyngor i fudiadau gwirfoddol a grwpiau cymunedol i’w galluogi i weithio’n fwy effeithiol.

Gall Medrwn Môn helpu gyda:
• Darparu cyngor ymarferol a chefnogaeth i grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol
ynglŷn â :
• Cyllido cynaliadwy
• Gwirfoddoli
• Llywodraethu da
• Ymgysylltu a dylanwadu
• Cefnogi mudiadau gwirfoddol a chymunedol i ddatblygu a chynnal partneriaethau cryf
a chyfleoedd i rwydweithio
• Hyrwyddo cyfleoedd i wirfoddoli a chymryd rhan yn y gymuned
• Adnabod anghenion hyfforddi, trefnu a darparu gweithdai hyfforddiant a
chymorthfeydd cyllido
• Annog pobl, grwpiau a mudiadau i leisio eu barn am wasanaethau cyhoeddus a’u
cymunedau
• Darparu gwasanaethau ymarferol a chefnogaeth weinyddol.

Mae Medrwn Môn yn rhoi cymorth i gymunedau i:
• adnabod bylchau mewn darpariaeth y gellid eu cyflenwi drwy’r sector gwirfoddol a
chymunedol
• datblygu mentrau lleol a phrosiectau
• sefydlu mentrau newydd.

Mae Medrwn Môn yn chwarae rhan hanfodol wrth gynrychioli’r sector gwirfoddol a chymunedol drwy fynegi barn y sector i bartneriaethau, llywodraeth leol a chyrff statudol, ac felly sicrhau fod barn y sector yn cael ei glywed.

Trwy weithio mewn partneriaeth ag eraill a thrwy ymateb yn bositif a dychmygus, bwriadwn gryfhau a rhoi grym i gymunedau drwy Ynys Môn.