Menter gymdeithasol wirfoddol yw Menter Dinefwr, a gafodd ei sefydlu yn 1999 yn Fenter Iaith ac yn asiantaeth i gefnogi'r gymuned a'r economi leol. Ein nod yw:
- cefnogi a darparu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg;
- cydweithio i ddatblygu cymunedau'r ardal;
- cyfrannu at dwf economaidd a chreu swyddi.
Mae ein pencadlys yn Hengwrt, Llandeilo gydag ail swyddfa yn Rhydaman. Rydym yn gwasanaethu ardal Dinefwr yn nwyrain Sir Gaerfyrddin, ac mae gennym brosiectau a chwmniau cyswllt sy'n gweithredu ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. Rydym yn gweithio yn y meysydd canlynol:
- yr iaith Gymraeg;
- diwylliant, treftadaeth a'r celfyddydau;
- y gymuned a digwyddiadau cymdeithasol;
- plant, pobl ifanc a theuluoedd;
- cefnogi ysgolion, mudiadau, clybiau a busnesau;
- siopau llyfrau a nwyddau Cymreig, trwy gwmni Cyfoes;
- clybiau hwyl a gofal plant, trwy gwmni Gofal Plant;
- cyfieithu, hyfforddi ac ymgynghori, trwy gwmni Trywydd.
Llun i Gwener 9am - 5pm
Galw heibio
Hunangyfeirio
Atgyfeiriad gan asiantaeth
Trwy drefnu apwyntiad yn unig