Sesiynau Wythnosol

Croeso / Welcome

Rydyn ni’n cynnal sesiynau theatr greadigol wythnosol ar gyfer ein pobl ifanc (11 i 25 oed) yn yr ardal o’n cwmpas yn Nyffryn Aman.

Os oes diddordeb gennyt mewn dod i un o’r sesiynau am y tro cyntaf, dilyna’r ddolen hon a llenwa’r ffurflen. Bydd aelod o staff yn dod yn ôl atat cyn gynted â phosibl. Galli di ddisgwyl llond lle o weithgareddau creadigol, hwyl a sbri, a chyfle i feithrin hyder, datblygu cyfeillgarwch a datblygu sgiliau theatr.

Yr amserlen ar hyn o bryd:

Bob nos Fawrth yng Nghanolfan Gymunedol Gwauncaegurwen

Cyfeiriad: Gwauncaegurwen, Rhydaman SA18 1ET

6.00 – 8.00pm

Agored i bobl ifanc 11 i 25 oed

Bob nos Iau yn Neuadd Gellimanwydd.

I gyrraedd y neuadd, mae angen gyrru i 45 Heol Wallsey, a gyferbyn mae yna giatiau dwbl er mwyn gollwng pobl/parcio yn y maes parcio. Sat Naf: Cod Post: 45, SA18 2LU

6.00 – 8.00pm

Agored i bobl ifanc 11 i 25 oed

Os oes unrhyw gwestiynau gennyt, paid ag oedi rhag estyn allan gan ddefnyddio’n cyfeiriad e-bost: hello@messupthemess.co.uk

Amseroedd agor

Regular Drama sessions - Tuesday 6-8pm (GCG) Thursday 4-6pm 6-8pm (Ammanford)

Dewisiadau Mynediad

Galw heibio

Hunangyfeirio

Atgyfeiriad gan asiantaeth

Trwy drefnu apwyntiad yn unig