Grŵp Cymorth Endometriosis UK Canolbarth Cymru

Mae llawer o bobl yn cael budd a chysur wrth siarad gyda phobl eraill sydd wedi bod neu sy’n mynd trwy brofiadau tebyg. Mae grwpiau cymorth ar gyfer pobl ag endometriosis neu boen cronig yn gallu bod yn ffordd wych o gwrdd â phobl eraill i siarad am y profiadau yma a rhannu cyngor.
Sefydlwyd y Grŵp Cymorth Endometriosis UK Canolbarth Cymru i gynnig lle diogel i fenywod sy’n byw yn y Canolbarth i rannu straeon a phrofiadau, cael hyd i wybodaeth ar fyw gydag Endometriosis a’i reoli, a gwneud ffrindiau Newydd.
Mae’r grŵp yn cwrdd bob yn ail fis, ar-lein, gyda rhai digwyddiadau cymdeithasol personol trwy gydol y flwyddyn.Am fwy o wybodaeth, ewch i https://endometriosis-uk.org/supportgroup/52618 neu ewch i’w tudalen ar Facebook: https://www.facebook.com/midwalesendosupp
ort

Amseroedd agor

Mae’r grŵp yn cwrdd bob yn ail fis, ar-lein, gyda rhai digwyddiadau cymdeithasol personol trwy gydol y flwyddyn.

Dewisiadau Mynediad

Galw heibio

Hunangyfeirio

Atgyfeiriad gan asiantaeth

Trwy drefnu apwyntiad yn unig