Mae gwasanaeth cwnsela Mind Gogledd Ddwyrain Cymru yn wasanaeth gyfeillgar a hyblyg i oedolion. Os ydych yn teimlo’n isel, yn delio gyda argyfwng personol, wedi colli rhywun yn agos atach, neu yn teimlo o dan straen, gall cwnsela eich helpu. Mae ein cynghorwyr yma i wrando ar eich problemau ac i’ch cefnogi chi drwy’r amser hon mewn lle diogel a chyfrinachol. Mae gwahanol fathau o gwnsela ar gael, gan gynnwys Person Centred Therapy, sgiliau CBT, EFT, ag EMDR.
Gall sesiynau fod ar y ffon neu wyneb i wyneb yn y ganolfan lles yn Yr Wyddgrug. Mae sesiynau yn digwydd pob pythefnos ag yn para 50 munud.
Mae yna gwnselydd addas i pob person a phroblem. Wedi eu arweini gan Rhian Stanton, ein cwnselydd profiadol, mae pob cwnselydd wedi eu cofrestru gyda BACP (British Association for Counselling and Psychotherapy).