Camau Nesaf

Darparwyd gan
Cymdeithas Stroc

Darparwyd gan
Cymdeithas Stroc

Lleoliad

Cyfeiriad post

Supporter Care Team Stroke Association 1 Sterling Business Park Salthouse Road NN4 7EX

Rydym wedi ymrwymo i barhau â’n gwaith cymunedol yng Nghymru.

Diolch i geisiadau llwyddiannus am gyllid gan y Grŵp Gweithredu ar gyfer Strôc yng Nghymru a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae’n bleser gennym ddweud y bydd prosiect tair blynedd newydd o’r enw Camau Nesaf yn dechrau ar 1 Ebrill 2022, a fydd yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd yn dilyn y prosiect Camau Cymunedol Strôc.

Bydd y prosiect Camau Nesaf yn canolbwyntio ar wella’r rhwydwaith cymorth cymunedol presennol ar gyfer goroeswyr strôc a gofalwyr ledled Cymru.

Bydd ein Swyddog Camau Nesaf yn sefydlu gweithgareddau grŵp, wedi'u cynllunio i ddod â phobl sydd wedi'u heffeithio gan strôc at ei gilydd i rannu profiadau, dysgu sgiliau newydd/ailddarganfod hen rai, adennill hyder ac ailgysylltu â bywyd cymunedol. Byddant hefyd yn gweithio gyda phartneriaid sefydledig, yn ogystal â nodi rhai newydd, i ddarparu gweithgareddau yn seiliedig ar yr anghenion a nodwyd ar gyfer ein buddiolwyr.

Bydd gweithgareddau'n cefnogi adferiad corfforol, emosiynol a gwybyddol, gan hyrwyddo gwelliant ar draws ystod o feysydd, gan gynnwys cryfder corfforol, deheurwydd, cydbwysedd, symudiad, lleferydd a chyfathrebu, iechyd emosiynol a llesiant. Bydd gweithgareddau'n cael eu cynnig gan ddefnyddio cyfuniad o gefnogaeth wyneb i wyneb ac ar-lein.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â nextstepswales@stroke.org.uk.

Dewisiadau Mynediad

Galw heibio

Hunangyfeirio

Atgyfeiriad gan asiantaeth

Trwy drefnu apwyntiad yn unig