Mae gwasanaeth Therapi Siarad Parabl yn rhoi cefnogaeth therapiwtig tymor byr i bobl sy’n ei chael hi’n anodd ymdopi â sefyllfa boenus neu broblem iechyd meddwl cyffredin a all fod yn effeithio ar eu lles emosiynol.
Caiff y gwasanaethau eu darparu gan gonsortiwm o elusennau ac maen nhw’n ategu’r rhai sydd ar gael gan y Gwasanaeth Cefnogi Iechyd Meddwl Sylfaenol. Mae’r gwasanaethau ar gael mewn sawl lle ar draws gogledd Cymru am mewn pob math o leoliadau. Mae apwyntiadau’n hyblyg ac ar gael yn ystod y dydd, gyda’r nos ac ar benwythnosau.
Partneriaid Parabl yw Mind Sir y Fflint, Mind Aberconwy, CAIS, Tan y Maen a Mind Gwynedd a Môn. Mae Mind Dyffryn Clwyd, Relate a Cruse yn darparu gwasanaethau hefyd.
Ar ôl cysylltu â ni byddwn yn cynnig asesiad cynhwysfawr i chi dros y ffôn i benderfynu ar addasrwydd y gwasanaeth i chi ac eich union anghenion. Byddwch chi a’r asesydd yn trafod rhestr o wasanaethau posib ac yna’n cytuno ar yr un sydd fwyaf addas ar eich cyfer chi.