Angen cymorth gyda’ch cyfrifiadur, ffôn neu ddyfais? Neu efallai eich bod angen cymorth i lywio’r byd ar-lein? Efallai eich bod yn adnabod rhywun a allai elwa o sesiwn gyda’n Champs cyfeillgar?
Archebwch eich sesiwn un-i-un ar gyfer tiwtorialau, cymorth a chyngor.
BOB DYDD MAWRTH A DYDD MERCHER
Slotiau amser rhwng 10.00am–1.00pm.
Ffoniwch Lyfrgell Penarth ar 02920 708438
Beth yw Hyrwyddwr Digidol?
Mae Hyrwyddwr Digidol yn rhywun sy’n helpu eraill gyda’u cyfrifiadur, tabled, ffôn neu unrhyw ddyfais arall maen nhw’n ei ddefnyddio i gysylltu â’r rhyngrwyd.