Pwrpas y cyllid yw sicrhau urddas mislif i’r bobl sydd â mislif sydd o gartrefi incwm isel yn ardal awdurdod lleol Caerdydd. Nod y gronfa yw sicrhau bod gan aelwydydd incwm isel fynediad at nwyddau mislif am ddim sy'n hygyrch yn y ffordd fwyaf ymarferol ac urddasol posibl.