Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Gwasanaeth Gofal Personol a Gofal Cartref/Glanhau

Rydym yn darparu ystod o wasanaethau gofal personol a gofal cartref wedi eu teilwrio i anghenion yr unigolyn.

Gofal Personol
Mae'r gwasanaeth yma wedi gofrestru gyda Arolygiaeth Gofal Cymru yn cynnig gwasanaeth gofal personol proffesiynol a ellir addasu ar gyfer eich anghenion unigol. Mae’r gwasanaeth ar gyfer y rhai sydd yn byw’n annibynnol yn y gymuned ond angen cefnogaeth ychwanegol.
Gallwn ddarparu'r canlynol drwy'r gwasanaeth gofal personol:
-Cefnogaeth mewn hylendid personol a chymorth i wisgo
-Cymorth i godi’n y bore ac i fynd i’r gwely yn y nos.
-Paratoi pryd o fwyd a thacluso.
-Cynorthwyo gyda bwyta ac yfed
-Cymorth i fynd i’r toiled

Gofal Cartref/Glanhau
Gwasanaeth sy'n cefnogi unigolion sy'n dymuno byw’n annibynnol yn eu cartrefi a chymunedau eu hunain.
Beth allwn ni ei wneud i helpu?
Glanhau eich tŷ
Golchi a smwddio dillad gwely
Cynnal tasgau amrywiol fel casglu pensiwn, cerdded y ci, mynd am dro
Paratoi pryd bwyd
Gwasanaeth eistedd