Ynghyd â llawer o weithgareddau yn y gymuned, yn Hyb Powerhouse gallwn eich helpu gyda chyngor lles a budd-daliadau, y rhestr aros tai a’ch cefnogi os ydych yn wynebu digartrefedd. Mae’r Hyb hefyd yn darparu gwasanaeth llyfrgell sy’n cynnig amrywiaeth eang o lyfrau a mynediad cyfrifiadurol.
Rydym yn cynnig cyngor ar dai a budd-daliadau bob dydd, ynghyd â chymorthfeydd cyngor wythnosol gyda swyddogion o adrannau eraill fel Cyngor Ariannol ac i Mewn i Waith.
Rydym hefyd yn cynnal gweithgareddau cymunedol ar gyfer grwpiau o bob oed.