Academi Iechyd a Gofal Powys

Lleoliad

Cyfeiriad post

Powys Health and Care Academy Bronllys Community Hospital Bronllys LD3 0LY

Mae’r Academi’n rhan o fenter Cymru gyfan i wella cyfleoedd i ddatblygu, derbyn addysg a hyfforddiant ar draws y sector iechyd a gofal cymdeithasol. Mae ein gwaith ni’n canolbwyntio’n benodol ar y gweithlu ym Mhowys.​

Yr uchelgais yw y bydd yn helpu’r sector i fod ymysg y prif ddewisiadau i’r rhai sy’n chwilio am waith neu’n dychwelyd i’r farchnad swyddi yn y sir, ac iddo fod yn enghraifft o ddarparwr addysg broffesiynol a chlinigol p’un ai’n wyneb yn wyneb neu’n rhithiol.​

Bydd yr Academi hefyd yn helpu i ddatblygu arweinwyr a’r gweithlu, gan gynnwys gwirfoddolwyr a gofalwyr di-dâl, sy’n cynnig dulliau arloesol o ofal i’n dinasyddion mewn ffordd amserol ac effeithiol.

Dewisiadau Mynediad

Galw heibio

Hunangyfeirio

Atgyfeiriad gan asiantaeth

Trwy drefnu apwyntiad yn unig