Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Pregnancy in Mind

Darparwyd gan
Pregnancy in Mind

Darparwyd gan
Pregnancy in Mind

Lleoliad

Cyswllt

02920 108080

Mae beichiogrwydd a dod yn rhiant newydd yn gyfnod o newid. Efallai eich bod chi’n teimlo dan bwysau neu’n unig, neu efallai bod rhywbeth nad yw’n teimlo’n iawn neu ddim fel y buasech yn ei ddisgwyl. Does dim rhaid i chi fynd drwy hyn ar eich pen eich hun, rydyn ni yma i’ch cefnogi chi.

Beth yw Pregnancy in Mind?
Mae Pregnancy in Mind yn rhaglen waith grŵp ar gyfer rhieni beichiog. Mae’n cynnwys 8 sesiwn gwaith grŵp. Gellir cyflwyno’r grŵp wyneb yn wyneb neu ar-lein.
Mae’r rhaglen yn cynnwys yr elfennau canlynol:
• Myfyrdod ymwybyddiaeth ofalgar
• Ymlacio actif
• Deall fy iechyd meddwl a datblygu ffyrdd o’i reoli
• Dod â’r babi i’r ystafell
• Cefnogaeth gymdeithasol
• Cwpl a chyd-riantu
Bob wythnos, byddwn yn cael trafodaeth un-i-un am eich lles.
Prif nod y grŵp hwn yw eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd cadarnhaol o reoli unrhyw deimladau anodd rydych chi’n eu profi er mwyn gwella eich llesiant a meithrin y berthynas rhyngoch chi a’ch babi sydd heb ei eni.