Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Tîm Rheoli Prosiect, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Mae’r Tim Rheoli Prosiect yn gweithio ar draws holl Ofal Cymdeithasol i ddarparu modelau tai,llety a chefnogaeth pwrpasol.Mae’r Tîm yn arwain ar nifer o brosiectau ac yn gweithio’n agos gyda budd-ddeiliaid allweddol,dinasyddion a’u cynrychiolwyr ac eraill i gyflawni a darparu gwasanaethau a deilliannau o ansawdd uchel.

Rydym yn rheoli rhestr aros tai arbenigol ac yn datblygu modelau cefnogi llety gan weithio mewn partneriaeth gyda gweithwyr proffesiynol, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac asiantaethau partner.Rydym yn asiant rheoli arweiniol sy’n gyfrifol am holl eiddo byw â chymorth a hawlio Tâl Gwasanaeth Amrywiol Ychwanegol i gynnal ardaloedd cymunedol mewn eiddo/gwasanaethau aml-ddefnydd.

Mae’r Tîm yn datblygu a chydlynu dulliau/mentrau Cynllunio sy'n Canolbwyntio ar yr Unigolyn gan weithio gyda Grŵp Gwasanaethau Safonau Wrecsam (SWS).Roedd y Grŵp SWS yn nodi’r angen am grŵp cyfeillgarwch heb gefnogaeth ble mae pobl yn gallu cwrdd a mynd i weithgareddau gwahanol.