Prosiect NUR

Darparwyd gan
YnNi Teg Cyfyngedig

Darparwyd gan
YnNi Teg Cyfyngedig

Lleoliad

Cyfeiriad post

c/o 17 West Bute Street Cardiff CF10 5EP

Prosiect NUR yn gryno
• Nod Prosiect NUR yw sefydlu sefydliad sy'n eiddo i'r gymuned i gynnig paneli solar a batri heb unrhyw gost ymlaen llaw i sefydliadau, busnesau a thrigolion ('cyfranogwyr') yng Nghaerdydd a Chasnewydd.
• Gall cyfranogwyr lleihau eu biliau tanwydd drwy ddefnyddio trydan pan fydd yr haul yn tywynnu. Mae trydan nad yw'n cael ei ddefnyddio yn cael ei storio yn y batri ar gyfer yn ddiweddarach.
• Mae platfform meddalwedd clyfar yn cysylltu cyfranogwyr â'i gilydd yn rhithwir mewn 'Gorsaf Bŵer Rhithwir Cymunedol'. Mae’n dysgu am eich anghenion ynni ac yna'n rhyddhau ac yn gwefru'r batri yn unol â hynny i ddarparu trydan rhad iddynt. Mae masnachu trydan ar y cyd o'r batris gyda'r Grid Cenedlaethol yn creu incwm i'r sefydliad sy'n eiddo i'r gymuned.
• Mae pawb yn arbed arian ac yn lleihau eu biliau trydan.

Mae Prosiect NUR yn archwilio opsiynau i gyfranogwyr:
• cynnal y paneli solar a'r batri (y sefydliad sy'n eiddo i'r gymuned sy'n berchen arnynt) NEU
• prynu'r offer (y cyfranogwr sy'n berchen arnynt).

Pwy all gymryd rhan?
• Sefydliadau cymunedol, busnesau a thrigolion Caerdydd a Chasnewydd sy'n berchen ar eu hadeiladau neu eu cartref neu'n eu rhentu'n breifat.
• Gall unrhyw lefel incwm aelwyd gymryd rhan. Nid yw Prosiect NUR yn seiliedig ar brawf modd.

Yn anffodus, nid yw Prosiect NUR ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol na phobl sy'n byw mewn fflatiau.
Mae Prosiect NUR eisiau cyrraedd aelwydydd sydd â chynilion bach neu ddim incwm gwario na allant fforddio prynu paneli solar.

Amseroedd agor

Dydd Llun - Dydd Iau 9am-5pm, ond ar gael ar gyfer digwyddiadau neu ymweliadau cartref mewn amseroedd eraill

Dewisiadau Mynediad

Galw heibio

Hunangyfeirio

Atgyfeiriad gan asiantaeth

Trwy drefnu apwyntiad yn unig