Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

ProMo-Cymru

Darparwyd gan
ProMo-Cymru

Darparwyd gan
ProMo-Cymru

Lleoliad

Cyfeiriad post

17 West Bute Street Cardiff CF10 5EP

Mae ProMo-Cymru yn gweithio i sicrhau bod pobl ifanc a chymunedau yn wybodus, yn cyfrannu, yn gysylltiedig ac yn cael eu clywed.

Rydym yn cydweithio i greu cysylltiadau rhwng pobl a gwasanaethau gan ddefnyddio creadigrwydd a thechnoleg ddigidol. Yn cefnogi’r trydydd sector a’r sector cyhoeddus i ddychmygu, profi a chreu gwasanaethau gwell.

Mae ProMo yn gweithio gyda chymunedau trwy gyfathrebu, eiriolaeth, ymgysylltu diwylliannol, a chynhyrchu digidol a chyfryngau. Mae ein gwaith yn cael ei lywio gan dros 20 mlynedd o gyflwyno prosiectau gwybodaeth ieuenctid digidol. Rydym yn rhannu'r wybodaeth yma trwy hyfforddiant ac ymgynghoriaeth, gan greu partneriaethau hirdymor er budd pobl a sefydliadau.

Mae ProMo yn elusen gofrestredig ac yn fenter gymdeithasol; mae'r elw yn cael ei fuddsoddi'n ôl i'n prosiectau cymunedol.