Mae gennym dros 40 o grwpiau yng Nghymru sy'n cynnig teithiau cerdded dan arweiniad bob wythnos o bob hyd ac anhawster.
Mae cerdded yn weithgaredd awyr agored cymdeithasol gwych ac rydym yn credu mewn amddiffyn rhwydwaith unigryw Cymru o lwybrau cyhoeddus. Mae 79% o Hawliau Tramwy yng Nghymru yn llwybrau troed gall cerddwyr eu defnyddio ac mae 21% o'n harwynebedd tir yn hygyrch.
Rydym yn gweithio i hyrwyddo cerdded er pleser, iechyd, hamdden a thrafnidiaeth i bawb, o bob oed, cefndir a gallu, mewn trefi a dinasoedd ac yng nghefn gwlad. Rydym am i Gymru fod yn lle y mae pobl yn dewis cerdded, gan gyfrannu at eu hiechyd, lles a chefnogi ffordd fwy cynaliadwy o fyw.
Rydyn ni'n cynnig cefnogaeth ymarferol i gael pobl i gerdded, ac i gynnal a chynyddu faint o gerdded maen nhw'n ei wneud, mewn sawl ffordd. Rydym yn darparu teithiau cerdded dan arweiniad trefnus trwy ein rhwydwaith o ardaloedd a grwpiau gwirfoddol, yn amrywio o fynd am dro trefol byr i heicio ucheldirol heriol.