Mae Rhythm of Life Therapes CIC (ROL) yn gwmni menter gymdeithasol a sefydlwyd yn Arberth. Ein nod yw hyrwyddo manteision therapi cerdd i'r sectorau iechyd ac addysgol yn ogystal ag i gymdeithas yn gyffredinol.
Ein cenhadaeth yw cysylltu pobl trwy gerddoriaeth a defnyddio cerddoriaeth i helpu pobl i wneud newid cadarnhaol yn eu bywydau.
Ein gweledigaeth yw diwallu anghenion ein cleientiaid o wahanol gefndiroedd a phrofiadau bywyd trwy rym cerddoriaeth, ac felly cefnogi eu twf a'u datblygiad trwy'r broses therapiwtig.
Rydym yn cynnig
Sesiynau therapi cerdd unigol
Gwasanaethau therapi cerdd grŵp
Sesiynau Therapi Cerdd Teuluol
Prosiectau Cerddoriaeth Gymunedol fel corau cymunedol a chylchoedd drymiau