Rydym yn gweithio gyda gwleidyddion a llunwyr polisi i ddylanwadu ar ddeddfwriaeth, polisi ac arfer ar lefel leol a chenedlaethol i gyflawni newid cadarnhaol i bobl gyda cholled golwg.
Mae ein gwasanaethau yn darparu atebion ymarferol i heriau bob dydd. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau ledled Cymru i ddarparu gwasanaethau lleol.
RNIB Cymru yw sefydliad colled golwg mwyaf Cymru. Rydym yn darparu ystod eang o wasanaethau a chymorth i bobl ddall ac â golwg rhannol ledled Cymru, yn ogystal ag ymgyrchu dros wella gwasanaethau ac atal achosion o golled golwg y gellir eu hosgoi.