Gwybodaeth a ddarperir gan ein partner Dewis. Cliciwch yma i weld y wybodaeth ar Dewis.

Rhedeg Cymru

Darparwyd gan
Rhedeg Cymru

Darparwyd gan
Rhedeg Cymru

Lleoliad

Cyfeiriad post

Cardiff International Sports Campus Leckwith Road Cardiff CF11 8AZ

Mae Rhedeg Cymru yma i ddathlu pobl a grwpiau sy'n rhedeg, loncian a cerdded eu ffordd i wella iechyd a lles waeth beth fo'u hoedran, lefel ffitrwydd, dyhead, cefndir neu leoliad. Rydym yn annog ac yn cefnogi creu grwpiau rhedeg cymdeithasol mewn cymunedau lleol, cyfeirio at gyfleoedd ariannu, darparu cymorth ac adnoddau ar gyfer Arweinwyr Rhedeg ac yn helpu pobl i gysylltu â rhedeg cymdeithasol ledled Cymru. Mae gennym gofrestr o Rhedwyr Tywys i gefnogi rhedwyr â nam ar eu golwg, sy'n gallu cyfeirio at glybiau a grwpiau sy'n darparu cyrsiau i ddechreuwyr, cynnig aelodaeth gysylltiedig ag Athletau Cymru drwy 'Clwb Run Wales' - ein clwb rhedeg rhithwir ac eirioli manteision rhedeg ar gyfer iechyd corfforol a meddyliol. Mae Run Wales hefyd yn gweithio ar draws ysgolion cynradd yng Nghymru i gynyddu nifer y plant sy'n cymryd rhan yn The Daily Mile, ac mae'n cefnogi cyfleoedd rhedeg anffurfiol mewn ysgolion uwchradd yn ogystal â gweithleoedd, a grwpiau cymunedol.