Cwnsela Ar Sail Ysgolion

Mae Area 43 yn cyflwyno Gwasanaeth Cwnsela Annibynnol Ar Sail Ysgolion yn Sir Gâr a Cheredigion. Fe wnaeth y gwasanaeth cynghori ddechrau yn 2008, yn dilyn ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru y byddai ‘holl blant ysgol yn gallu cael mynediad at wasanaethau cynghori, gan roi hyder iddynt y byddai eu hanghenion yn cael eu clywed a’u cyfeirio.’ Roedd datblygiad y gwasanaeth cwnsela ar sail-ysgol cyffredinol ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru yn argymhelliad o Adroddiad Ymchwiliad Clywch gan Gomisiynydd Plant Cymru.

Mae cynghori yn ffordd grefftus o helpu pobl gyda materion personol a datblygiadol ac anawsterau. Mae amgylchedd diogel a chyfrinachol yn rhoi cyfle i unigolion i archwilio, darganfod a dod o hyd i ffyrdd i fyw mewn ffordd fwy boddhaol a medrus. Mae’n cynnig y cyfle i gynyddu hunanymwybyddiaeth, datblygu adnoddau personol a deall y problemau yn ogystal â datblygu strategaethau i ymdopi â newid.

Mae gwasanaeth cwnsela Area 43 ar gael i holl blant a phobl ifanc rhwng 10 ac 18 yn y ddwy sir, pun ai a ydynt yn yr ysgol, cartref neu ‘addysgu fel arall’. Mae gennym gwnselwydid gwrywaidd a benywaidd yn etîmtim a gallwn gynnig cwnsela’n ddwyieithog. Rydym yn cynniggwasanaetheth yma mewn 19 ysgol uwchradd, mae gennym 5 uned ble rydym yn cyfeirio disgyblion, yn gwasanaethu 2 ysgol arbennig a 140ysgolionion cynradd ac yn cyflwyno sesiynau cwnselai dros 1,000 o bobl ifanc yn flynyddol.

Mae sawl gwahanol ffordd o fyned y gwasanaeth cynghori – I wneud apwyntiad gofynnwch yn uniongyrchol i’ch Athro, Pennaeth Blwyddyn neu’r Cynghorydd yn eich ysgol . Os yr ydych am wneud apwyntiad heb siarad ag unrhyw un yn yr ysgol, gallwch ffonio Area 43 ar 0800 849 7979, sy’n alwad rhad ac am ddim neu ffoniwch 01239 614566, yn ystod oriau gwaith. Mewn rhai amgylchiadau, byddwn am ofyn i’ch rhieni/gofalwyr am eu hawl, ond byddem yn trafod hyn gyda chi o flaen llaw.

Mae Area 43 yn cymryd cyfeiriadau gan asiantaethau proffesiynol arall, rhieni/gofalwyr, gweithwyr iechyd, gweithwyr ieuenctid a staff ysgol ond ni all unrhyw un eich ‘gorfodi’ chi i gael cwnsela os nad ydych eisiau.

Mae Area 43 yn aelod gweithredol o’r British Association for Counselling & Psychotherapy (BACP) a’i hadran Blant & Phobl Ifanc. Rydym yn ymrwymedig i gefnogi Fframwaith Moesegol BACP am Ymarfer Da mewn Cwnsela. Caiff y gwasanaeth cwnsela ei monitro gan oruchwyliwr clinigol, y cyfarwyddwr clinigol a rheolaeth yn Area 43.

Dewisiadau Mynediad

Galw heibio

Hunangyfeirio

Atgyfeiriad gan asiantaeth

Trwy drefnu apwyntiad yn unig