Rydyn ni’n darparu gwasanaeth anhygoel o’r enw Bywydau a Rennir. Mae Bywydau a Rennir ar gyfer oedolion sydd angen cymorth ac eisiau byw mewn cartref teuluol. Mae’n debyg i ofal maeth, ond ar gyfer oedolion.
Yn Ategi, byddwn yn eich paru â gofalwr Bywydau a Rennir sydd wedi’i hyfforddi. Byddant yn rhannu eu cartref a’u bywyd teuluol gyda chi, yn eich helpu i weithio tuag at eich nodau, ac yn eich cefnogi i fod yn fwy annibynnol.
Gallwch:
Dreulio’r diwrnod gyda gofalwr
Aros am egwyl fer
Symud i mewn a byw gyda gofalwr
Mae’n hyblyg ac wedi’i deilwra i’ch anghenion.