Mae Singing for the Brain’ yn grŵp canu wythnosol ar gyfer pobl â dementia a’u gofalwyr. Does dim angen profiad canu blaenorol a bydd croeso cynnes iawn! Cynhelir bob dydd Mercher (wythnosol) o 2.00pm – 3.30pm ar zoom ac yn Neuadd Eglwys Sant Isan, Heol Hir, Llanisien, Caerdydd, CF14 5AE
Cymdeithas Alzheimer yw prif elusen cymorth ac ymchwil y DU ar gyfer pobl â dementia, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
Mae Singing for the Brain® yn weithgaredd grŵp ysgogol sy’n seiliedig ar egwyddorion therapi cerdd ar gyfer pobl yng nghamau cynnar a chymedrol dementia a’u gofalwyr.
Mae'r sesiynau ysgogol yn dod â phobl at ei gilydd mewn amgylchedd cyfeillgar, hwyliog a chymdeithasol. Mae'r sesiynau'n cynnwys cynhesu lleisiol a chanu amrywiaeth eang o ganeuon ysgogol a newydd.