Rydym yn cynnig gwasanaeth rhagnodi cymdeithasol i gefnogi pobl i gael mynediad at weithgareddau y gallant eu mwynhau yn eu cymuned leol sy'n gwella iechyd a lles. Dyma'r manteision:
- dysgu sgiliau newydd neu gymryd rhan mewn gweithgaredd newydd
- gwella iechyd a lles meddyliol a chorfforol
- cwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau newydd
- cael cymorth ymarferol, therapiwtig a chymdeithasol cywir gan eraill
- cael eich grymuso a chynyddu hunanhyder a hunan-barch
- trwy gymyd rhan mae'r claf yn aml yn dod yn adnodd arall i rywun arall neu i'w Gymuned leol.