Ar hyn o bryd, mae Soundworks, ein gweithdai creu cerddoriaeth yn ystod y tymor ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu ac awtistiaeth, yn cael eu cynnal yng Nghanolfan Hamdden y Gorllewin Better Caerdydd. Mae'r sesiynau cerddoriaeth cynhwysol hyn yn annog cyfranogwyr i archwilio synau, rhythmau ac offerynnau mewn gofod anffurfiol, hygyrch a diogel. Yn ystod y sesiynau, bydd cyfranogwyr yn archwilio blociau adeiladu sylfaenol cerddoriaeth gyda chefnogaeth ac anogaeth eu gofalwyr. Mae’r gweithdai hefyd yn cynnig cyfle i ofalwyr ddatblygu sgiliau wrth ddefnyddio cerddoriaeth i adeiladu lefelau rhyngweithio cymdeithasol, sgiliau cyfathrebu a hyder eu cleientiaid.
Gofod creadigol difyr, cyfeillgar ac AM DDIM i’w fynychu!
Mae dwy sesiwn ar ddydd Mawrth: 11am-12.30pm a 1pm-2:30pm. Cynhelir sesiynau yng Nghanolfan Hamdden y Gorllewin, Trelái, Caerdydd. Mae croeso i aelodau newydd bob amser, cysylltwch â ni drwy e-bost: a2@artsactive.org.uk