Yn llyfrgelloedd y Fro ein nod yw ysgogi pobl ac annog naws am le drwy lyfrgelloedd gyda llyfrau, gwybodaeth, dysgu, a mynediad ar-lein, cerddoriaeth, ffilm a gwasanaethau ar gyfer pob trigolyn mewn mannau sy'n dod â chymunedau lleol ynghyd.
Mae cyfrifiaduron gyda mynediad i'r rhyngrwyd ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio.
Mae gan aelodau llyfrgelloedd y Fro fynediad at dros 250,000 o lyfrau, 7,000 o lyfrau llafar, yn ogystal â bod yn gallu archebu unrhyw lyfr yng Nghymru am ddim, mynediad am ddim at y rhyngrwyd a llu o wasanaethau gwych eraill.