Mae Canolfan St Vincent, Pont Trelái yn lle sy'n darparu amgylchedd croesawgar lle gellir meithrin hyder, sgiliau a lles mewn pobl. Mae'r ganolfan yn darparu amgylchedd diogel i bobl gael eu caru a'u derbyn, lle gall cyfeillgarwch ffynnu gan annog ei gilydd i wneud yn dda mewn bywyd gan gyrraedd eu llawn botensial. Prif thema’r ganolfan yw cynnig parch, anogaeth a thosturi i bobl sydd wedi’u difreinio.
Rydym yn cynnal nifer o brosiectau y gall dynion a merched gymryd rhan ynddynt o sesiynau bocsio AM DDIM, sesiynau campfa, teithiau cerdded lles, grwpiau cymunedol a grŵp anabledd cymorth cymheiriaid o’r enw Beyond Differences.