Mae STAND Gogledd Cymru CBC yn sefydliad a arweinir gan Rieni
sy’n cefnogi teuluoedd hefo plant, pobl ifanc ac oedolion ag anghenion
ychwanegol ac anableddau yng Ngogledd Cymru.
Rydym yn gweithio gyda theuluoedd a gweithwyr proffesiynol ac yn
cynnig: Clust i wrando, hyfforddiant i rieni a gweithwyr proffesiynol,
gweithdai i rieni a gofalwyr, grwpiau cefnogi rhieni, gweithdai a
gweithgareddau i bob oedran a gallu, diwrnodiau teulu, llyfrgell
benthyca synhwyraidd i deuluoedd sydd wedi cofrestru yn
Sir Ddinbych a Conwy, a llawer mwy.
NI ALLWN ddarparu:
Cwnsela, cyngor am anghenion iechyd meddwl,
unrhyw fath o therapi na gofal seibiant.
Sylwer nad ydym yn derbyn cyllid craidd ac felly bydd ein gallu i
gyflwyno gwasanaethau yn dibynnu ar y cyllid y gallwn ei ddenu.